Roedd dros 2,000 o bobol yn angladd y chwaraewr rygbi’r gynghrair Danny Jones heddiw.

Bu farw’r chwaraewr 29 oed ar ddechrau’ mis o ganlyniad i drawiad ar y galon, oedd wedi’i achosi gan gyflwr oedd wedi’i etifeddu.

Cafodd Danny Jones y trawiad yn ystod gornest rhwng Keighley a Skolars Llundain ac fe fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Roedd ei angladd yn cael ei gynnal yn Halifax, gyda rhai o’r galarwyr yn gwisgo crysau rygbi.

Mae’n gadael gwraig a gefeilliaid pum mis oed.

Ers ei farwolaeth, mae cronfa wedi cael ei sefydlu er cof amdano, ac mae mwy na £150,000 wedi cael ei godi hyd yn hyn.