Llun o wefan y Ganolfan
Mae Dŵr Cymru yn agor Canolfan Ymwelwyr a Chanolfan Chwaraeon Dŵr newydd sbon gwerth £2.5 miliwn yn ne-ddwyrain Cymru heddiw.

Mae’r ganolfan newydd wedi’i hadeiladu ar lan Cronfa Ddŵr Llandegfedd ger Pont-y-pŵl gyda mwy na chwech milltir o lwybrau cerdded  yn ogystal â safleoedd i bysgota, hwylio, canŵio, caiacio, ac adeiladu rafftiau.

Fe fydd y safle hefyd yn cael ei gofrestru yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y cyfoeth o fywyd gwyllt sydd yno.

‘Ased aruthrol’

“Mae’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr yn ased aruthrol i’r grwpiau gweithgarwch lleol a dylai’r trysor arbennig yma ym Mhont-y-pŵl fod yn atyniad gwych i dwristiaid, gan ddenu pobl o bedwar ban y byd,” meddai Prif Swyddog Gweithredol Dŵr Cymru, Pete Perry.

Fe ddywedodd fod y buddsoddiad yn bosib oherwydd natur cwmni Dŵr Cymru.

“Yn wahanol i gwmnïau dŵr ac ynni eraill, does gyda ni ddim cyfranddalwyr,” meddai.

“Yn ogystal â chadw cost ein biliau’n isel, mae hyn yn golygu y gallwn ail-fuddsoddi’r arian er mwyn darparu atyniadau hamdden gwych ar gyfer ein cwsmeriaid hefyd, fel yr un yma yn Llandegfedd.”