Aaron Ramsey'n dathlu (Dave Howarth/PA)
Mae Barcelona yn fodlon talu £50m i arwyddo chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey, yn ôl adroddiadau heddiw.

Er bod y clwb o Gatalunya dan waharddiad trosglwyddo’r haf yma, mae eu rheolwr Luis Enrique yn awyddus i ddenu’r Cymro i’r Nou Camp, yn ôl papur newydd The Sun.

Mae’n debyg fod Barcelona wedi gwylio Ramsey sawl gwaith y tymor hwn ac y bydd eu sgowtiaid yno eto’r wythnos nesa’ wrth i Arsenal ac Aston Villa herio’i gilydd yn ffeinal Cwpan FA Lloegr.

Arwyddo yn 2016?

Mae Barcelona wedi cael eu gwahardd rhag arwyddo unrhyw chwaraewyr yr haf hwn ar ôl torri rheolau yn ymwneud â phrynu chwaraewyr ifanc.

Ond fe allai’r Catalaniaid ddod i gytundeb gydag Arsenal i arwyddo Ramsey ym mis Ionawr 2016, neu geisio ei arwyddo nawr a’i fenthyg nôl i Arsenal tan y flwyddyn nesaf.

Mae gan y Cymro bedair blynedd ar ôl ar ei gytundeb sydd yn talu £125,000 yr wythnos, felly does dim pwysau mawr ar Arsenal i werthu.

Ramsey v Bale

Mae’n golygu y byddai hi’n ddigon posib y gallai Barcelona orfod talu hyd at £50m neu hyd yn oed yn fwy os ydyn nhw am arwyddo’r chwaraewr 24 oed.

Fe allai hefyd olygu fod dau Gymro’n wynebu ei gilydd yng ngemau’r El Classico y flwyddyn nesa’ – Ramsey gyda Barcelona a Gareth Bale yn Real Madrid.

Ond mae trafod hefyd am ddyfodol Bale