Mae Morgannwg wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn yn ail adran y Bencampwriaeth, wedi iddyn nhw guro Swydd Essex o 90 o rediadau.

Dechreuodd yr ymwelwyr y diwrnod olaf ar 51-2 wrth gwrso nod o 364, ond bowlwyr y Cymry gafodd y gorau o’r llain wrth i Swydd Essex gael eu bowlio allan am 274.

Cipiodd y troellwr ifanc Andrew Salter a’r bowliwr cyflym Michael Hogan dair wiced yr un.

Erbyn amser cinio, roedd Swydd Essex yn 158-5 ac fe ychwanegodd Ryan ten Doeschate a Kishen Velani 68 o rediadau am y chweched wiced cyn i Velani daro ymlaen i’r wiced ar 31.

Daeth cyfle cynnar am wiced ar ddechrau sesiwn y prynhawn, ond fe ollyngodd Hogan ei afael ar ddaliad oddi ar fowlio Graham Wagg i waredu ar Callum Taylor.

Cyrhaeddodd Taylor ei hanner canred cyn cael ei ddal gan Colin Ingram oddi ar Wagg, a’r ymwelwyr yn 242-7, a Morgannwg yn agos iawn at sicrhau’r fuddugoliaeth.

Aeth 242-7 yn 269-8, wrth i Graham Napier gael ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace oddi ar Craig Meschede, ac fe ddilynodd Adeel Malik yn dynn ar ei sodlau.

Collodd Swydd Essex eu dwy wiced olaf am bump rediad, ac mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Morgannwg yn drydydd yn y tabl.