Cyflawnodd bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, Graham Wagg y gamp o gipio pum wiced mewn batiad wrth i Swydd Essex gael eu bowlio allan am 221 yn Stadiwm Swalec y bore ma.
Dechreuodd y trydydd diwrnod gyda’r ymwelwyr ar 183-4, ond cwympodd wyth o wicedi yn y sesiwn gyntaf, gan gynnwys dwy wiced gyntaf ail fatiad Morgannwg.
Cipiodd Wagg bedair wiced y bore ma i’w hychwanegu at y wiced gipiodd e neithiwr wrth fowlio’r wicedwr James Foster.
Craig Meschede gipiodd wiced gynta’r bore wrth i Mark Wallace ddal Ryan ten Doeschate y tu ôl i’r ffyn ac yntau wedi ceisio gwyro’r bêl dros ei ben.
Cwympodd y bum wiced nesaf am naw rediad o fewn 26 o belenni.
Cafodd Callum Taylor ei ddal wrth yrru i gyfeiriad Michael Hogan oddi ar fowlio Wagg wrth i’r ymwelwyr golli eu chweched wiced ar 212.
Heb ychwanegu at gyfanswm Swydd Essex, cipiodd Wagg wiced Graham Napier wrth iddo ddarganfod menyg y wicedwr Mark Wallace.
Buan y cafodd Kishan Velani ei fowlio gan Wagg, a Swydd Essex yn 219-8.
Roedd cyfle am un wiced arall i Meschede cyn diwedd y batiad, wrth i Adeel Malik ddarganfod dwylo diogel Michael Hogan.
Caeodd Wagg ben y mwdwl ar y batiad wrth fowlio Jamie Porter i gipio’i bumed wiced a gorffen gyda ffigurau o 5-54.
Roedd Morgannwg yn 28-2 erbyn amser cinio.