Mae prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Toby Radford yn gobeithio am gael dechrau positif i gystadleuaeth y T20 heno.

Mae Morgannwg wedi enwi carfan 13 dyn ar gyfer y daith i gae’r Oval i herio Swydd Surrey.

Mewn datganiad, dywedodd Toby Radford: “Mae gyda ni lu o resymau i gredu ynon ni ein hunain yn y T20 oherwydd cydbwysedd ein tîm, nifer y chwaraewyr amryddawn ac ansawdd ein maesu felly rydyn ni’n edrych ymlaen at y gystadleuaeth.

“Mae ymdeimlad positif yn yr ystafell newid oherwydd y cymeriad wnaethon ni ddangos yn ein gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaint ac fe wnaeth y chwaraewyr sefyll i fyny pan oedd yn cyfri.”

Bydd Morgannwg yn dibynnu ar brofiad eu capten Jacques Rudolph, eu wicedwr Mark Wallace a rhai o’r chwaraewyr rhyngwladol gan gynnwys Colin Ingram yn ystod y gystadleuaeth.

Ond un o’r chwaraewyr profiadol sydd allan o’r ornest yw’r bowliwr cyflym o Dde Affrica, Wayne Parnell.

Ychwanegodd Radford: “Rydyn ni wedi cael tipyn o drafodaethau ymhlith y chwaraewyr hŷn a’r tîm hyfforddi ynghylch y timau gorau maen nhw wedi bod yn rhan ohonyn nhw a sut roedden nhw’n gweithredu, ac wrth gytuno ar rywbeth i wella’n ffordd o wneud pethau, rydyn ni wedi ceisio rhoi rhywbeth ar waith.

“Dw i wedi cael nifer o drafodaethau da gyda Colin Ingram ynghylch ei rôl yn y tîm ac rydyn ni’n gwybod y gall e sgorio o gwmpas y wiced a’i fod yn hoff o chwarae mewn ffordd ymosodol, sy’n rhoi opsiwn wych i ni.”

Ymhlith carfan Swydd Surrey mae’r chwaraewyr rhyngwladol Wahab Riaz a Kumar Sangakkara.

Carfan Swydd Surrey: G Batty (capten), Z Ansari, J Burke, R Burns, T Curran, S Davies, M Dunn, B Foakes, A Kapil, Wahab Riaz, J Roy, K Sangakkara, V Solanki, G Wilson

Carfan Morgannwg: W Bragg, R Smith, J Rudolph (capten), M Wallace, C Ingram, B Wright, C Cooke, C Meschede, D Lloyd, A Salter, G Wagg, D Cosker, M Hogan.