Mae is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft wedi dweud wrth Golwg360 fod “yr ysbryd yn arbennig” ymhlith y garfan ar drothwy’r tymor newydd.
Roedd y garfan ym Mharc Margam ddoe i ymgymryd â her ‘Go Ape’ fel rhan o’u paratoadau ar gyfer y tymor newydd.
Lai na phythefnos cyn eu gêm Bencampwriaeth gyntaf yn Swydd Gaerlŷr, dywedodd Croft fod y gystadleuaeth ymhlith y troellwyr yn arbennig o gryf.
“Mae un hen foi ’da ni, Dean Cosker ac mae dau foi ifanc gyda ni, Kieran Bull ac Andrew Salter, felly mae digon o gystadleuaeth gyda nhw.
“Y peth pwysig i fi fel hyfforddwr yw cadw pawb i roi popeth mewn i’r paratoi achos bo nhw moyn mynd mewn i’r tîm. Mae pethau’n edrych yn braf.”
Cafodd Salter, y troellwr 21 oed o Hwlffordd, ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yng ngwobrau’r clwb ddiwedd y tymor diwethaf.
Daeth Salter i amlygrwydd yn 2013 pan gipiodd e wiced gyda’i belen gyntaf yn y Bencampwriaeth – dim ond tri o chwaraewyr sydd wedi cyflawni’r gamp honno yn hanes y clwb. Roedd e hefyd yn rhan allweddol o’r tîm 40 pelawd pan gyrhaeddon nhw ffeinal cystadleuaeth Yorkshire Bank 40 y tymor hwnnw.
Y tymor diwethaf ddaeth Kieran Bull i’r golwg i Forgannwg, gan gipio pedair wiced am 62 yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint yn ei ornest gyntaf.
Mae Dean Cosker bellach yn 37 oed, ac fe fydd y ddau grwtyn ifanc yn dynn ar ei sodlau.
‘Dechrau da’
Yn ôl Croft, bydd dechrau da i’r tymor yn allweddol y tymor hwn wrth i Forgannwg geisio gwella’u perfformiadau yn y Bencampwriaeth. Ond maen nhw hefyd yn awyddus i ddatblygu ar eu gwelliant sylweddol mewn gemau undydd.
“Ry’n ni wedi cael amser ma’s yn y canol yn paratoi, i wynebu timau eraill lawr yng Ngwlad yr Haf a hefyd Swydd Gaerloyw, felly mae pethau’n edrych yn eitha braf.
“Mae un neu ddau o fois newydd gyda ni. Bydd Michael Hogan yn dod draw nawr hefyd, a Colin Ingram. Mae’r ysbryd yn arbennig gyda’r bois a’r peth pwysig yw jyst cadw pethau i fynd a dechrau’r tymor yn dda.”
KP
Ar ôl dychwelyd o Gaerlŷr, bydd sylw’r cyfryngau a’r wasg ar Stadiwm Swalec ar gyfer ymweliad Kevin Pietersen, sy’n debygol o hawlio’r penawdau doed a ddêl.
Cyhoeddodd Pietersen ei fod yn rhoi’r gorau i griced y siroedd y llynedd i ganolbwyntio ar gemau ugain pelawd ar draws y byd.
Ond fe wnaeth e dro pedol yn ddiweddarach, gan ail-ymuno â Swydd Surrey ar gyfer 2015.
Er gwaetha gallu Pietersen i ddenu’r sylw, mae Croft yn mynnu mai’r flaenoriaeth i Forgannwg fydd ennill y gêm.
“Mae Kevin wedi dweud lot am beth mae e moyn neud yn y gêm. Mae e’n credu bod llawer ar ôl gyda fe. Mae e’n mynd i roi cyfle i bawb ddod i mewn i weld Kevin yn whare.
“Ond y peth ry’n ni’n edrych amdano fel Morgannwg yw ennill yn erbyn Surrey. Mae llawer o gricedwyr arbennig o dda gyda nhw.”