Diwrnod 1: Swydd Essex 207-4 (Browne 73, Westley 60), Morgannwg 27-1

Sesiwn 1: Morgannwg gafodd y gorau o’r amodau ar y cyfan ar fore cynta’r ornest yn erbyn Swydd Essex yn Sain Helen. Wedi galw’n gywir, penderfynodd yr ymwelwyr fatio’n gyntaf. Tarodd Tom Westley 60 wrth i fowlwyr cyflym Morgannwg gael bore hesb, ond daeth llwyddiant wrth droi at y troellwr llaw chwith Dean Cosker, a gipiodd y ddwy wiced ar lain sydd wedi dechrau dangos arwyddion ei bod yn troi. Nick Browne (31*) a’r chwaraewr amryddawn o Seland Newydd, Jesse Ryder (6*) oedd wrth y llain amser cinio. Swydd Essex 102-2

Sesiwn 2: Cipiodd y troellwr ifanc Andrew Salter wiced yn ei belawd gyntaf wedi’r egwyl, wrth i Ryder gael ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace am 24, a’r ymwelwyr wedi cyrraedd 124-3. Cyrhaeddodd Nick Browne ei hanner cant gyda phedwar rhyfedd wedi i Murray Goodwin benio’r bêl dros y ffin – wythfed pedwar Browne yn y batiad. Dilynodd cyfnod rhwystredig i Forgannwg wrth i’r capten Mark Wallace benderfynu dangos ffydd yn y bowlwyr cyflym. Ond fe wnaeth y dacteg ddwyn ffrwyth ychydig belawdau cyn te, wrth i James Harris gipio wiced James Foster, wedi’i ddal gan y capten ei hun am 39, a Swydd Essex wedi ymlwybro i 196-4. Arafodd y sgorio wedi’r bedwaredd wiced ond fe gyrhaeddodd yr ymwelwyr 200 dair pelawd cyn yr egwyl. Dychwelodd Salter i fowlio’r belawd olaf cyn te a’r llain yn dangos y gallai partneriaeth fowlio gyda Dean Cosker yn ystod y prynhawn fod wedi gwneud niwed mwy sylweddol i’r ymwelwyr. Swydd Essex 207-4

Sesiwn 3: Wrth i Forgannwg barhau i gyfuno cyflymdra Allenby gyda’r troellwr Dean Cosker, cipiodd Allenby wiced hollbwysig Nick Browne (77) yn nhrydedd belawd y sesiwn, y batiwr yn darganfod menyg Wallace, a chyfanswm yr ymwelwyr yn 220-5. Buan y cipiodd Morgannwg chweched wiced hefyd, wrth i Wallace ddal Greg Smith oddi ar Allenby, a Swydd Essex yn llithro i 224-6. Cafwyd rhywfaint o achubiaeth i’r ymwelwyr gan Ryan ten Doeschate a Graham Napier, cyn i Napier gael ei ddal gan Michael Hogan oddi ar Allenby a’r ymwelwyr yn 252-7. Cafodd Hogan yntau ei gyflwyno i’r ymosod yn fuan wedyn, ac fe wnaeth e ddarganfod coes Sajid Mahmood o flaen y wiced, a Swydd Essex bellach yn 272-8, yr Awstraliad ddwy wiced i ffwrdd o’i hanner canfed y tymor hwn. Cipiodd Allenby ddwy wiced ola’r batiad i orffen gyda ffigurau o 5-56, a’r ymwelwyr yn 286 i gyd allan.

Dechrau digon gwael gafodd Morgannwg i’w batiad cyntaf nhw ddiwedd y drydedd sesiwn, wrth i Will Bragg gael ei ddal gan y wicedwr James Foster oddi ar y troellwr llaw chwith Monty Panesar. Gorffennodd Morgannwg y diwrnod cyntaf ar 27-1.

Dyfarnwyr: A Wharf, P Baldwin

Galwodd Swydd Essex yn gywir a phenderfynu batio’n gyntaf