Swydd Essex yw’r ymwelwyr wrth i San Helen gynnal gornest Bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor hwn.

Mae Morgannwg yn seithfed yn y Bencampwriaeth, tra bo’r ymwelwyr yn bedwerydd, ac mae eu gobeithion o ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf yn fyw o hyd.

Dydy Swydd Essex ddim wedi chwarae yn San Helen ers 2007, ac roedden nhw’n fuddugol o bedair wiced bryd hynny diolch i 147* gan Ravi Bopara.

Morgannwg oedd yn fuddugol o wyth wiced bum mlynedd ynghynt – y tro diwethaf i Forgannwg guro Swydd Essex yng Nghymru.

Pe bai Morgannwg yn ennill yr ornest hon, fe fyddan nhw wedi ennill tair o’r bron yn Abertawe, yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Swydd Gaerloyw yn 2012 a Swydd Gaerlŷr y tymor diwethaf.

Pan gyfarfu Morgannwg a Swydd Essex yn gynharach y tymor hwn yn Chelmsford, gorffennod yr ornest yn gyfartal.

Pe bai Will Bragg yn sgorio 87 o rediadau yn ystod yr ornest, fe fydd e wedi sgorio 1,000 o rediadau’r tymor hwn, a fe fyddai’r cyflymaf i gyrraedd y nod i Forgannwg ers wyth mlynedd.

Ac fe allai Michael Hogan gipio’i ganfed wiced y tymor hwn yn y Bencampwriaeth – mae e wedi cipio 47 mor belled.

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph, J Allenby, W Bragg, M Wallace (capten), M Goodwin, C Cooke, D Lloyd, G Wagg, A Salter, D Cosker, M Hogan, J Harris

Carfan 13 dyn Swydd Essex: T Westley, N Browne, R Bopara, J Ryder, J Foster, R ten Doeschate, G Smith, G Napier, T Phillips, D Masters, M Salisbury, M Panesar, S Mahmood