Mae Rheolwr Perfformiad Corfforol Elit Morgannwg, Rob Ahmun wedi cael ei benodi’n hyfforddwr nerth a chyflyru newydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Daeth Ahmun yn aelod o staff hyfforddi Morgannwg yn 2003 ac fe fu’n gweithio gyda nifer o gynlluniau’r bwrdd criced cenedlaethol fel rhan o’i swydd.

Roedd yn un o hyfforddwyr carfan dan 19 Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd yn gynharach eleni.

Yn dilyn ei benodiad i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, dywedodd Rob Ahmun: “Rwy wedi mwynhau fy amser gyda Morgannwg yn fawr iawn ac yn dilyn mwy na degawd yn gweithio yma, mae tipyn wedi newid ond mae gen i dipyn o atgofion arbennig iawn.

“Hoffwn ddiolch i’r holl hyfforddwyr a’r chwaraewyr rwy wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd ac yn dymuno’n dda iddyn nhw am weddill y tymor.

“Mae’r cyfle i weithio gyda Lloegr yn llawn-amser yn gam gwych yn fy ngyrfa ac wedi gweithio ar nifer o deithiau Lloegr a gyda chwaraewyr ar y rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf, rwy’n edrych ymlaen at yr her newydd.”

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris ei fod yn dymuno’n dda i Rob Ahmun, a bod y broses o ddod o hyd i hyfforddwr newydd i lenwi’r bwlch eisoes wedi dechrau.