Fe fydd Morgannwg a Swydd Warwick yn herio’i gilydd mewn gornest 50 pelawd yng nghwpan Royal London am 10.30 yn San Helen heddiw.
Mae Morgannwg yn chweched yn y tabl yn dilyn eu buddugoliaeth o 95 o rediadau yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton nos Fawrth, ond mae’r ymwelwyr yn yr ail safle wedi iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaint ddydd Sul, diolch i’r glaw.
Dydy’r ddwy sir ddim wedi herio’i gilydd mewn gornest Rhestr A ers 2009, ond digon llwyddiannus fu Morgannwg yn erbyn Swydd Warwick mewn gemau ugain pelawd yn ystod y tymhorau diwethaf.
Morgannwg oedd yn fuddugol o 130 o rediadau pan gyfarfu’r ddwy sir mewn gornest undydd o dan lifoleuadau’r Swalec yn 2008, wrth i’r Awstraliad Jason Gillespie gipio pum wiced am chwe rhediad wrth i’r ymwelwyr gael eu bowlio allan am 88.
Yn Abertawe, Swydd Warwick oedd yn fuddugol ar eu hymweliad blaenorol â’r cae ar lan y môr yn 2005, a hynny o 54 o rediadau.
Yr ymwelwyr oedd yn fuddugol o 54 o rediadau mewn gornest 45 pelawd yn 2005, a gorffennodd yr ornest yn yr un gystadleuaeth yn gyfartal yn 2000.
Y tro diwethaf i Forgannwg guro Swydd Warwick mewn gornest Rhestr A yn Abertawe oedd 1981, wrth i John Hopkins, Javed Miandad a Malcolm Nash gyfrannu at y fuddugoliaeth.
Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph, J Allenby, W Bragg, M Wallace, M Goodwin, C Cooke, D Lloyd, G Rees, G Wagg, A Salter, D Cosker, M Hogan