Fe fydd Morgannwg yn dechrau Cwpan 50 pelawd y Royal London gyda -2 o bwyntiau wedi i arolygwyr benderfynu bod cyflwr llain Stadiwm Swalec yn wael.
Cafodd cwyn ei wneud i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn dilyn yr ornest yn erbyn Swydd Durham nos Wener diwethaf.
Ond dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod yr adborth a dderbyniodd y clwb am y cae hyd yn hyn wedi bod yn dda ar y cyfan.
“Mae’r adborth rydyn ni wedi’i dderbyn gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, adroddiadau’r dyfarnwyr a thimau oddi cartref, boed yn siroedd neu dimau rhyngwladol, ar gyfer y lleiniau newydd wedi bod yn bositif, gan gynnwys y rhai ar gyfer Tlws Pencampwyr yr ICC y llynedd.”
Ond fe benderfynodd yr arolygwyr fod penderfyniad y dyfarnwyr fod y cae yn is na’r safon a ddisgwylir yn un teg.
Dywedodd Hugh Morris fod y clwb yn derbyn y penderfyniad, ond nad oedd modd rhagweld y byddai’r cae yn ymateb yn y ffordd a wnaeth yn ystod yr ornest nos Wener diwethaf.
Ychwanegodd: “Does dim awgrym o fwriad i gynhyrchu llain chwarae oedd yn ffafrio’r tîm cartref.
“Yn wir, ni fyddai’r tirmyn wedi gallu rhagweld y canlyniad fyddai’n deillio o hynny.”
Cafodd lleiniau newydd eu gosod ar gae’r Swalec bob gaeaf rhwng 2011 a 2014 yn dilyn blynyddoedd o adroddiadau’n beirniadu cyflwr y cae.