Collodd Morgannwg o dair wiced yn erbyn Outlaws Swydd Nottingham yng Nghwpan Undydd Royal London yng Nghaerdydd neithiwr, er gwaethaf canred i’r batiwr agoriadol o Dde Affrica, Jacques Rudolph.

Daeth cyfnod di-guro Morgannwg yn y gystadleuaeth hon i ben, wrth i’r ymwelwyr gipio’r fuddugoliaeth gyda naw o belenni’n weddill o’r ornest.

Cafodd Morgannwg eu gwahodd i fatio’n gyntaf wedi iddyn nhw golli’r dafl, ond fe ddechreuon nhw’n gadarn gan gyrraedd yr hanner cant yn y ddeuddegfed belawd, er gwaethaf colli wiced Jim Allenby yn gynnar yn y batiad.

Cyrhaeddodd Rudolph ei hanner cant oddi ar 57 o belenni cyn i Will Bragg golli ei wiced, a Morgannwg bellach yn 85-2.

Aeth 85-2 yn 99-3 wrth i Murray Goodwin gael ei fowlio gan gyn-fowliwr Morgannwg, James Franklin cyn i Chris Cooke gael ei ddal yng nghanol-wiced gan Rikki Wessels, a’r Cymry’n 115-4.

Yn fuan wedyn, gwnaeth David Lloyd ddarganfod dwylo diogel y wicedwr Chris Read, wrth i Forgannwg lithro i 122-5.

Cyrhaeddodd Rudolph ei ganred oddi ar 130 o belenni, ond fe gollodd ei wiced oddi ar y belen nesaf, wedi’i fowlio gan Ajmal Shahzad wrth i Forgannwg gyrraedd 161-6.

Cafodd Mark Wallace ei redeg allan gan James Taylor wedi i Forgannwg ychwanegu chwech rhediad at eu cyfanswm

Wedi i Forgannwg golli Graham Wagg, daeth ychydig o sefydlogrwydd i’r batiad diolch i Andrew Salter, oedd wrth y llain pan gyrhaeddodd Morgannwg 200 ac fe orffennodd y batiad ar 227-8.

Cafodd Morgannwg ddechrau da wrth iddyn nhw geisio cyfyngu’r ymwelwyr, wrth i Rudolph ddal Alex Hales oddi ar Michael Hogan gydag un rhediad yn unig wedi’i sgorio.

Bowliodd Hogan a Graham Wagg dair pelawd ddi-sgôr rhyngddyn nhw cyn i Taylor gael ei ddal gan Wallace oddi ar Hogan.

Daeth wiced arall i Hogan bedair pelen yn ddiweddarach, wrth iddo fowlio Samit Patel, a’r ymwelwyr wedi llithro i 11-3.

Daeth pedwaredd wiced i Forgannwg wrth i David Lloyd ddal Michael Lumb â’i goes o flaen y wiced, a’r ymwelwyr yn 48-4.

Cipiodd y troellwr Andrew Salter wiced oddi ar ei belen gyntaf, wrth i Wallace ddal James Franklin wrth i’r Outlaws gyrraedd 78-5.

Cyrhaeddodd Wessels ei hanner cant oddi ar 60 o belenni cyn iddo gael ei redeg allan gyda’r cyfanswm yn 127-6.

Daeth rhagor o lwyddiant wrth i Salter gipio daliad campus ag un llaw i waredu ar Chris Read, wrth i’r Outlaws lithro i 137-7.

Gyda nod o 68 i ennill oddi ar 60 o belenni, dechreuodd yr Outlaws glatsio’u ffordd tua’r fuddugoliaeth wrth i Steven Mullaney gyrraedd ei hanner cant oddi ar 39 o belenni.

Tarodd Mullaney bedwar a chwech wrth i’r Outlaws gyrraedd y nod i sicrhau’r pwyntiau.