Roedd is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft yn barod i ganmol y batiwr Murray Goodwin nos Wener, er i’r Cymry golli o saith wiced yn erbyn Eryr Swydd Essex yn y T20 Blast yn Stadiwm Swalec.

Tarodd Goodwin 71 wrth i Forgannwg osod nod o 158 i’r Eryr wedi iddyn nhw gael eu gwahodd i fatio’n gyntaf.

Doedd partneriaeth o 104 rhwng Goodwin a Jacques Rudolph ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Forgannwg, wrth i’r ymwelwyr gyrraedd y nod gyda dwy belawd yn weddill.

Ond pe baen nhw’n mynd drwodd i’r wyth olaf, fe fyddan nhw’n gorfod teithio i Old Trafford i wynebu Swydd Gaerhirfryn.

Bu Robert Croft yn siarad â gohebydd golwg360 Alun Chivers yn dilyn y gêm.