Mae Morgannwg yn teithio i Fryste heddiw yn y gobaith o ennill yn y Bencampwriaeth ar gae Nevil Road am y tro cyntaf ers 2008.
Daeth yr ornest rhwng Morgannwg a Swydd Gaerloyw i ben yn gyfartal y llynedd, er gwaethaf canred yr un i Murray Goodwin a Jim Allenby.
Yn 2012, roedd y tywydd yn drech na Morgannwg a Swydd Gaerloyw, a chafodd yr ornest ei chanslo heb i’r un belen gael ei bowlio, ond Swydd Gaerloyw oedd yn fuddugol o bum wiced yn 2011.
Daeth yr ornest rhwng y ddwy sir yn Stadiwm Swalec i ben yn gyfartal eleni, a daeth eu gornest yn y T20 Blast i ben yn gynnar hefyd oherwydd y glaw a stormydd.
Mae Morgannwg yn bedwerydd yn ail adran y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.
Carfan 12 dyn Morgannwg: T Lancefield, J Rudolph, W Bragg, B Wright, C Cooke, J Allenby, M Wallace (capten), G Wagg, R Smith, A Salter, D Cosker, M Hogan
Carfan 13 dyn Swydd Gaerloyw: M Klinger (c), W Tavare, C Dent, H Marshall, A Gidman, I Cockbain, W Gidman, C Herring, T Smith, L Norwell, M Taylor, D Payne, B Howell