O stormydd Bryste i heulwen Caerdydd, fe fydd ymgyrch T20 Blast Morgannwg yn parhau heno wrth i Spitfires Swydd Gaint ddod i Stadiwm Swalec.

Roedd y Spitfires yn fuddugol dros Eryr Swydd Essex nos Fercher, gyda’r Eryr yn hedfan uwchben y Spitfires a Morgannwg i’r ail safle yn y tabl.

Er gwaetha colli, fe barhaodd y perfformiwr cyson, Rob Key gyda’i rediad o sgoriau uchel, gan daro 62 oddi ar 40 o belenni.

Daeth gornest Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw i ben yn gynnar oherwydd stormydd a glaw.

Dydy Morgannwg erioed wedi curo’r Spitfires mewn gornest ugain pelawd.

Mae Morgannwg wedi enwi carfan 14 dyn, ac mae’r Spitfires wedi enwi carfan 13 dyn ar gyfer yr ornest.

Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, S Walters, M Goodwin, C Cooke, B Wright, D Lloyd, D Sammy, G Wagg, A Salter, D Cosker, W Owen, M Hogan

Spitfires Swydd Gaint: R Key (capten), A Ball, D Bell-Drummond, S Billings, A Blake, D Bollinger, M Claydon, F Cowdrey,  D Griffiths, S Northeast, A Riley, D Stevens, J Tredwell