Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gydag Ymddiriedolaeth Tom Maynard ar gyfer y tymor hwn.

Fe fydd logo’r Ymddiriedolaeth yn ymddangos ar flaen y crysau mae Morgannwg yn eu gwisgo ar gyfer gemau Pencampwriaeth y Siroedd.

Daw’r cyhoeddiad yn yr wythnos y byddai Tom, cyn-gricedwr Morgannwg, wedi bod yn dathlu’i benblwydd yn 25 oed.

Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu er cof am y cricedwr fu farw yn 2012.

Mae ei dad, cyn-gapten a chyn-Gyfarwyddwr Criced Morgannwg, Matthew yn dychwelyd i Forgannwg am gyfnod byr y tymor hwn i weithio gyda rhai o chwaraewyr ifanc disgleiriaf y sir.

Yn ogystal â gwisgo’r crysau, fe fydd Morgannwg yn trefnu nifer o ddigwyddiadau yn ystod y tymor i godi arian at yr Ymddiriedolaeth.

Daw’r cyfle cyntaf i Forgannwg wisgo’r crysau pan fyddan nhw’n teithio i’r Oval i herio Surrey, y sir y symudodd Tom iddi o Forgannwg yn 2011.

Ar dudalen Twitter Matthew Maynard, fe ddywedodd fod y cyhoeddiad yn “newyddion gwych”.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth eu bod “wrth eu bodd” o gael sefydlu’r bartneriaeth a’i bod yn “gyhoeddusrwydd anhygoel i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud”.

Gwaith yr Ymddiriedolaeth

Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu i helpu cricedwyr a chwaraewyr talentog ifanc difreintiedig ym myd y campau’n gyffredinol.

Mae’n helpu’r chwaraewyr i brynu cit, derbyn hyfforddiant ac addysg ac i deithio tramor i feithrin eu sgiliau.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth academi yn Sbaen yn enw Tom, lle bu unarddeg o gricedwyr ifanc disglair yn derbyn hyfforddiant arbenigol gan Matthew Maynard a hyfforddwyr adnabyddus eraill.

Ymateb

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Matthew Maynard: “Rwy’n gyffrous iawn am fy rôl gyda Morgannwg ac rwy’n falch iawn fod Morgannwg wedi penderfynu cefnogi’r Ymddiriedolaeth mewn ffordd mor weledol.

“Yn nhermau fy rôl gyda Morgannwg, rwy’n falch y bydda i’n gweithio gyda thri chricedwr addawol iawn eleni, ac yn helpu i ddatblygu chwaraewyr Cymreig talentog y dyfodol.”

Fe fydd e’n rhannu ei amser rhwng Morgannwg a thîm St Lucia Zouks yn y Caribî.

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Ers sefydlu Ymddiriedolaeth Tom Maynard, mae’r clwb a’r chwaraewyr wedi’i chefnogi’n llwyr.

“Fe fydd gan Tom le arbennig yn ein calonnau ni am byth ac mae’r cytundeb hwn yn mynd â’n partneriaeth ni gyda’r Ymddiriedolaeth i lefel newydd.”

Ychwanegodd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Martyn Ryan fod “Ymddiriedolaeth Tom Maynard yn ei chael yn fraint o gael eu dewis i ymddangos ar grysau Morgannwg”.

Mae rhagor o wybodaeth am waith yr Ymddiriedolaeth ar eu gwefan.