Stadiwm Swalec
Mae Morgannwg wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo’r batiwr Stewart Walters o Awstralia ar gytundeb dwy flynedd.
Fe chwaraeodd Walters i Surrey rhwng 2006 a 2010 ac roedd yn gapten ar y clwb yn 2009.
Fe fydd Stewart Walters yn ymuno gyda charfan Morgannwg cyn i’r Dreigiau deithio i Dde Affrica ar gyfer taith er mwyn paratoi ar gyfer y tymor newydd.
“R’yn ni’n hapus iawn bod Stewart wedi ymuno gyda Morgannwg,” meddai Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, Colin Metson.
“Mae’n gricedwr talentog a phrofiadol ac fe fydd yn gallu gwireddu ei botensial yng Nghymru.”
Mae Stewart Walters wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at ymuno gyda’i gyd-chwaraewyr newydd.
“Rwy’n gwerthfawrogi bod Morgannwg wedi rhoi ail gyfle i mi chwarae criced sirol ac rwy’n edrych ‘mlaen i gyd-weithio gyda’r capten Alviro Petersen a’r hyfforddwr Matthew Mott,” meddai Stewart Walters.