Stephen Jones
Mae maswr Cymru, Stephen Jones, wedi dweud y bydd angen i Gymru lynu wrth eu steil nhw o chwarae os ydynt am lwyddo yn erbyn yr Eidalwyr ddydd Sadwrn.

Bydd Cymru yn teithio i Rufain gyda mwy o hyder ar ôl maeddu’r Alban 24-6 yn Murrayfield.

Fe fydd yr Eidal yn gobeithio adfer rhywfaint o hunan barch ar ôl colli 59-13 yn erbyn Lloegr yn Twickenham.

Ond mae Cymru yn bryderus am fygythiad yr Eidalwyr ar ôl colli yn Rhufain ar drothwy’r ddau Gwpan y Byd diwethaf.

“Ond r’yn ni’n ymwybodol o’r her sy’n ein hwynebu ni yn Rhufain. R’yn ni wedi wynebu gemau caled yn y gorffennol ac eisiau osgoi cael ein llusgo i mewn i frwydr gorfforol,” meddai Stephen Jones, fydd yn ennill cap rhif 98.

“Mae’n rhaid i ni chwarae ein steil ni o rygbi a rheoli’r gêm. Os allen ni wneud hynny does dim rheswm pam na fyddwn ni’n llwyddo.

“Roedd Lloegr wedi bod yn graff iawn yn eu chwarae yn erbyn yr Eidal. Roedden nhw’n ymosod yn y mannau cywir ac yn cadw’r tempo yn uchel.

“Roedd hynny’n gweddu i steil chwarae Lloegr, ac fe ddylai weddu i’n steil ni hefyd.

“Mae’n rhaid edrych ar y chwaraewyr sydd gennym ni a phenderfynu beth yw ein cryfderau ni. Rydyn ni’n chwarae gêm sy’n llawn peryglon ond hefyd yn llawn gwobrau.