Fe fydd tymor y Bencampwriaeth yn dechrau i Forgannwg heddiw wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Stadiwm Swalec.
Mae Morgannwg wedi ennill pob gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd yn erbyn y sir o Ganolbarth Lloegr ers 2006.
Gorffennodd yr ornest yn gyfartal y llynedd.
Hwn yw’r pedwerydd tro y mae’r ddwy sir wedi herio’i gilydd yng ngêm gyntaf y tymor, ond y tro cyntaf i’r gêm gyntaf rhwng y ddwy sir gael ei chynnal yng Nghaerdydd.
Mae disgwyl i’r batiwr o Zimbabwe, Murray Goodwin a’r bowliwr o Awstralia, Michael Hogan ymddangos am y tro cyntaf yng ngwisg Morgannwg.
Bydd sgorfwrdd yn ymddangos ar Golwg360 yn gyson yn ystod y gêm.
Am y tro cyntaf eleni, mae sylwebaeth lawn o gemau’r Bencampwriaeth i’w chael ar y we, wedi i fwrdd reoli ECB gyflwyno deddfwriaeth newydd.
Carfan Morgannwg: Will Bragg, Ben Wright, Stewart Walters, Marcus North, Murray Goodwin, Jim Allenby, Mark Wallace (capten a wicedwr), Graham Wagg, Dean Cosker, Michael Hogan, Michael Reed a Huw Waters.