Nathan Cleverly
Mae’n annhebygol y bydd yr ornest WBO pwysau is drwm rhwng Nathan Cleverly a Ryan Coyne yn mynd yn ei flaen oherwydd ffrae ynglŷn â chytundeb.

Mae’r Americanwr yn ofni y bydd ei gyn-asiant, Don King, yn gorfodi’r ornest ar 10 Tachwedd i gael ei ohirio.

Fe wnaeth Cleverly ohirio ei ornest â Vyacheslav Uzelkov yng Nghaerdydd i wynebu Coyne yn Los Angeles.

‘‘Does gen i ddim syniad pwy fydda’ i’n ymladd nesaf,’’ meddai Cleverly, 25, wrth Adran Chwaraeon y BBC.

Gallai ei wrthwynebydd newydd gael ei gyhoeddi yn hwyrach heddiw.