Mark Colbourne
Mae’r seiclwr Paralympaidd, Mark Colbourne, wedi ennill ei drydedd medal yn y Gemau ar ôl dod yn ail mewn ras ar y ffordd heddiw.

Yn gynharach yn y Gemau enillodd y Cymro o Dredegar fedal aur yn y ras 3km pursuit ac arian yn y sbrint 3km, a chafodd fedal arian arall heddiw yn y ras yn erbyn y cloc yn adran C1.

Yn y pwll heddiw mi fydd Liz Johnson o Gasnewydd yn amddiffyn ei choron fel brenhines yr SB6 nofio broga 100m.

Wedi iddi ennill efydd yn ras gyfnewid y 4x100m, bydd y Saesnes Jenny McLoughlin, sydd wedi cynrychioli Cymru ers symud yno’n 14 oed, yn cystadlu yn y 200m T27.

Mae athletwyr Paralympaidd o Gymru wedi ennill deg medal yn y Gemau hyd yn hyn.

Fe roddodd Chwaraeon Cymru darged o ennill 14 medal i’r athletwyr cyn dechrau’r Gemau.