Nathan Cleverly
Bydd y bocsiwr o Gefn Fforest, Nathan Cleverly, yn amddiffyn ei deitl fel pencampwr y byd pwysau is-drwm fis nesaf er gwaethaf methu a sicrhau gornest yn erbyn Carl Froch a Bernard Hopkins.

Roedd hyrwyddwr Nathan Cleverly, Frank Warren, yn agos i sicrhau bowt yn erbyn Bernard Hopkins, tan i’r Americanwr benderfynu yn erbyn mynd ymlaen â’r broses.

Yn hytrach felly, bydd Nathan Cleverly, 25, yn mynd yn erbyn y gŵr o’r Wcráin, Vyacheslav Uzelkov.

Mynodd Frank Warren hefyd fod pencampwr IBF y byd, Carl Froch, yn ogystal â Tony Bellew wedi gwrthod y cyfle i gwffio yn erbyn y Cymro.

Bydd Nathan Cleverly yn wynebu’r bocsiwr o’r Wcráin ar 27 Hydref yn Arena Motorpoint, Caerdydd.

“Rhwystredig”

Fe gollodd Vyacheslav Uzelkov ar bwyntiau yn erbyn pencampwr presennol y WBA, Beibut Shumenov, yn 2010 – ond fe lwyddodd i lorio’r gŵr o Kazakstan.

Hon fydd yr ail waith yn unig i Nathan Cleverly gwffio yn 2012.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Frank Warren Promotions eu bod nhw’n “rhwystredig” fod yr ornest â Bernard Hopkins heb ddigwydd.

Ym mis Chwefror eleni, bu Nathan Cleverly’n fuddugol yn erbyn yr Americanwr, Tommy Karpency, yng Nghaerdydd.

“Fe ges i groeso gwych yn Arena Motorpoint yn Chwefror, fy ngornest gyntaf yng Nghymru ers dros bedair blynedd,” meddai cyn-fyfyriwr Mathemateg Prifysgol Caerdydd.

“Mae pob amddiffyniad o fy nheitl yn hollbwysig wrth i mi adeiladu tuag at yr ornest uniad felly fedra i ddim fforddio i lithro yn erbyn Uzelkov,” ychwanegodd.