Ellie Simmonds
Bydd y nofiwr Paralympaidd Ellie Simmonds yn cystadlu yn ei thrydedd ffeinal o’r Gemau heno ar ôl iddi orffen yn ail yn rhagras y 50m dull rhydd.

Fe orffennodd y ferch o Abertawe’r bedwerydd cyflymaf o’r holl nofwyr.

Mae’r nofiwr, sydd â’r cyflwr corachedd, eisoes wedi hawlio dwy fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain hyd yn hyn.

Neithiwr, enillodd ffeinal yr SM6 200m medli unigol gan guro’r record byd yn y broses.

Nos Sadwrn, fe chwalodd Ellie Simmonds record y byd wrth gipio’r fedal aur yn y ras 400 metr dull rhydd.

Yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008, fe enillodd Ellie Simmonds dwy fedal aur yn yr un cystadlaethau – a hithau ond yn 13 oed ar y pryd.