Warren Gatland
Warren Gatland fydd yn hyfforddi’r Llewod ar eu taith i Awstralia flwyddyn nesaf – dyna sy’n disgwyl cael ei gyhoeddi’n swyddogol y bore ma.

Hyfforddwr Cymru yw’r ffefryn i gymryd y swydd yn dilyn ei lwyddiant gyda’r tîm cenedlaethol dros y deuddeg mis diwethaf.

Mae cynhadledd newyddion wedi’i drefnu gan y Llewod ar gyfer 11yb.

Arweiniodd Gymru i rownd gynderfynol Cwpan y Byd ac yna arwain y tîm at ei hail Gamp Lawn mewn pedair blynedd.

Roedd disgwyl i’r Llewod gyhoeddi’r apwyntiad nôl ym mis Ebrill ond cafodd ei ohirio yn dilyn damwain i Warren Gatland pan dorrodd ei ddau bigwrn yn dilyn cwymp yn ei gartref yn Waikato.

Rob Howley i Gymru?

Disgwylir i’r gŵr o Seland Newydd enwi ei dîm hyfforddi ym mis Hydref.

Y disgwyl yw y bydd nifer o dîm hyfforddi Cymru’n cael eu cynnwys yn y staff, gan gynnwys yr hyfforddwr amddiffyn, Shaun Edwards.

Golygai hynny y bydd Cymru’n gorfod ymdopi heb ei brif hyfforddwyr am bron i flwyddyn gyfan.

Er y bydd disgwyl i Warren Gatland hyfforddi Cymru yn ystod gemau’r hydref yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia, mae disgwyl i Rob Howley gymryd yr awenau yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dydi’r Llewod heb ennill cyfres brawf ers eu hymweliad i Dde Affrica yn 1997.