Methodd y deifiwr ifanc, Tom Daley, sicrhau medal prynhawn yma, ar ôl gorffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth ddeifio gydamserol 10 metr.
Ynghyd â’i bartner, Pete Waterfield, cafodd un o obeithion mwyaf Prydain yn y Gemau ei siomi ar ôl dechrau’r gystadleuaeth yn addawol.
Yn ôl y disgwyl, y pâr o Tsieina, Cao Yuan a Zhang Yanquan, enillodd y fedal aur.
Yn ddiweddar, bu rhaglen ddogfen yn dilyn Tom Daley, 18, wrth iddo ymdopi â gofynion deifio, gwaith ysgol a marwolaeth anamserol ei dad o gancr.
Bydd Tom Daley yn gobeithio am fedal pan fydd yn cystadlu’n unigol nes ymlaen yr wythnos yma.