Geraint Thomas
Mae gobeithion Cymru am fedal aur Olympaidd mewn seicol wedi cynyddu, wrth i Geraint Thomas helpu tîm Prydain i dorri record byd.

Fe lwyddodd pedwarawd seiclo Prydain i gipio’r fedal aur ar ddiwrnod cyntaf Pencampwriaethau Seiclo’r Byd ym Melbourne yn Awstralia, gan dorri record y byd yn y broses.

Roedd Geraint Thomas o Gaerdydd yn nhim Prydain yn y ras dros bedair cilomedr, ac fe groeson nhw’r llinell mewn amser o 3 munud 53.295 eiliad, drwch blewyn o flaen ffefrynnau’r dorf, Awstralia.

Roedd hynny’n torri’r record byd a osodwyd gan dîm Prydain yng ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.

Chafodd driawd dynion Prydain, oedd yn cynnwys Syr Chris Hoy, ddim cystal hwyl â’r pedwarawd gan iddyn nhw gael eu diarddel am dorri rheol ar y trac.