Ray Williams (chris_nwales CCA2.5)
Mae codwyr pwysau’n gobeithio y bydd agor canolfan newydd yng ngogledd Cymru’n arwain at fagu rhagor o bencampwyr.

Mae hen glwb Mill Bank yng Nghaergybi yn ail-agor dan yr enw Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi a Môn ar ôl “buddsoddiad sylweddol”.

Gobaith y ganolfan yw denu 100 o godwyr pwysau newydd a datblygu hyfforddwyr newydd hefyd.

Pennaeth y ganolfan yw Ray Williams a enillodd fedal aur am godi pwysau yng ngemau’r Gymanwlad yn 1986.

“Mae’r lle wedi gwella’n aruthrol ac rydan ni’n edrych ‘mlaen yn gyffrous at bennod newydd yn hanes y clwb, sy’n ddeugain oed ac wedi cynhyrchu amryw o bencampwyr,” meddai.

“Mi fydd yr awyrgylch newydd yn sicrhau bod mwy o bencampwyr yn cael eu cynhyrchu yma am flynyddoedd lawer i ddod, a degawdau ar ôl i fi adael”.

Safonau rhyngwladol

Mae’r ganolfan yn cynnwys 13 gorsaf godi, ac yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol er mwyn derbyn statws canolfan ragoriaeth ranbarthol.

Un fydd yn yr agoriad swyddogol yfory yw’r bachgen lleol Gareth Evans, sy’n gobeithio bod yn rhan o dîm Prydain yn y Gêmau Olympaidd eleni ac sy’n ymarfer gyda charfan Prydain yn Leeds ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Ray Williams, “Os ydan ni am greu cenedl o bencampwyr yma yng Nghymru yna mae angen cyfleusterau gwych arnon ni.

“Rydan ni wedi cael llwyddiant gwych ar lefel ryngwladol dros y degawdau ond mae codi pwysau dal yn gamp leiafrifol ac mae angen datblygu talent ar lawr gwlad er mwyn parhau i ennill”

Dywedodd Ray Williams ei fod yn gweithio gyda’r pump ysgol uwchradd yn Ynys Môn er mwyn datblygu’r genhedlaeth nesaf o bencampwyr.