Yfory mae un o rasys mwyaf y tymor rasio ceffylau, sef Cwpan Aur Cheltenham, ac mae perchennog ceffyl a enillodd yn 1990 wedi bod yn hel atgofion am y ras.
Ar y dyddiad yma, 15 Mawrth 1990, enillodd Norton’s Coin o ddyffryn Tywi y Cwpan Aur, yn groes i bob disgwyl gan mai ods o 100-1 a roddodd y bwcis arno i ennill. Y ffefryn mawr i ennill y diwrnod hwnnw oedd y march glas enwog, Desert Orchid.
Roedd Sirrell Griffiths wedi magu Norton’s Coin ar ei fferm laeth yn Nantgaredig, a dechreuodd diwrnod y ras fawr yn arferol iawn.
“Godrais i’r da yn y bore a bant â ni i Cheltenham. Do’n i ddim yn disgwyl ennill ond ro’n i wedi talu mil o bunnau i entro ac o’n i’n gobeithio gorffen yn y chwech uchaf i gael fy arian i nôl.
“Ar ôl cyrraedd y cwrs es i am baned o de a dyma’r dyn wrth fy ochr i’n gofyn gyda pha geffyl oeddwn i. Ar ôl i fi ddweud ‘Norton’s Coin’ dyma fe’n wfftio ac yn cerdded bant – fe oedd perchennog Bonanza Boy, un o’r ffefrynnau. Pan ddaeth hi i ddiwedd y ras dyma fi’n neidio lan a lawr yn y stand, gan daro’r dyn o ‘mlaen i drwy gamgymeriad. Troiodd e rownd, a phwy oedd e ond perchennog Bonanza Boy!”
Enillodd Norton’s Coin y ras o flaen ceffyl Jennie Pitman, Toby Tobias, gyda Desert Orchid yn drydydd annisgwyl.
Kauto Star
Mae’r ffefryn i ennill Cwpan Aur Cheltenham ddydd Gwener yma, sef Kauto Star, wedi ei gymharu â Desert Orchid. Mae’r ddau wedi ennill y Cwpan Aur ac yn geffylau poblogaidd iawn ymhlith dilynwyr rasio.
“Rwy’n gallu gweld y tebygrwydd rhwng y ddau,” meddai Sirrell Griffiths. “Ar ei orau rwy’n credu fod Kauto Star yn well ceffyl nag oedd Desert Orchid hyd yn oed.”
Ond ymataliodd Sirrell Griffiths rhag tipio enillydd y Cwpan Aur eleni. “Na, does dim tips da fi,” meddai. “Ond rwy’n dilyn y rasys yn eiddgar o hyd a mae ceffyl ‘da fi’n rhedeg yn Ffos Las ddydd Sadwrn – You be careful. Dyna gyngor da i chi!”