Mae Janet Davies, perchennog ceffylau yn stablau Evan Williams ym Mro Morgannwg, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n falch o weld rasio ceffylau’n dychwelyd i’r calendr chwaraeon yr wythnos hon.

Cafodd y rasys cyntaf eu cynnal yn Newcastle ddydd Llun (Mehefin 1), ac mae rasys hefyd wedi’u cynnal yn Kempton.

Bydd rhagor o rasys cyn diwedd yr wythnos yn Lingfield a Newmarket.

Ond fe fydd rhaid aros tan Fehefin 15 i weld rasio ceffylau yng Nghymru, gyda rasys yng Nghas-gwent. Bydd rasys ym Mangor-is-y-coed fis nesaf, ac yn Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin yn yr hydref.

“Maen nhw wedi rhoi camau diogel iawn yn eu lle,” meddai Janet Davies.

“Wrth gwrs, dyw perchnogion ddim yn cael mynd o gwbl ar hyn o bryd ond dw i’n deall, yn Iwerddon, fod hawl gydag un perchennog i fynd gyda phob ceffyl.

“Ond dyw hwnna ddim yn bwysig ar hyn o bryd.

“Gan fod y rasys wedi dod ’nôl yn yr haf, mae’r cwbl lot yn yr awyr agored a does dim unrhyw fath o reswm pam fyddai rhywun yn cyffwrdd â’i gilydd, er gallai rhai ceffylau fynd yn agos at ei gilydd mewn ras.

“Y ddadl yw, pan y’ch chi yn yr awyr agored, dyw e ddim yn gymaint o broblem.

“Os yw’r diwydiant yn dibynnu ar y ffaith fod y ceffylau ’nôl er mwyn bod y staff i gyd yn y stablau, mae cannoedd o staff yn ne Cymru yn gwbl ddibynnol ar y rasys yn dod ’nôl.

“Fi’n credu mai’r rheswm mae rasys ceffylau wedi dod nôl yw achos bod e’n chwaraeon sy’ ddim â chyffwrdd.”

Camp i’r Ceidwadwyr?

Yn ôl rhai, y rheswm pam fod rasio ceffylau ymhlith y campau cyntaf i gael eu cynnal eto ers y coronafeirws yw am ei bod yn gamp y Ceidwadwyr a’u cefnogwyr yng nghefn gwlad.

Yn wir, mae’r etholaethau lle mae’r rhan fwyaf o gyrsiau mwyaf Lloegr yn rhai Ceidwadol sy’n cael eu cynrychioli gan aelodau blaenllaw’r llywodraeth bresennol a’r un flaenorol.

Ond mae’r awgrym mai buddiannau personol gwleidyddion sy’n gyrru’r penderfyniad yn annheg, yn ôl Janet Davies.

“Wrth gwrs mai yn yr ardaloedd hynny mae’r cyrsiau mawr,” meddai.

“Mae’r arian yn dod o’r Ceidwadwyr, Llafur neu beth bynnag, ond dwi ddim yn meddwl bod unrhyw fath o ddylanwad fynna.

“Dwi’n rhan o’r ROA, sef y Racehorse Owners Association, sy’n drawstoriad o bawb.

“Mae rasys mawr gyda chi lle gallwch chi ennill £100,000 neu £200,000 ac ati, ond y rasys bach bob dydd yw’r bara menyn lle y’ch chi’n ennill ryw £2,000 am ras.

“Ry’ch chi’n lwcus iawn os y’ch chi’n ennill y rasys yma.

“Ond mae cymaint o bobol yn gefnogol i’r rasys, mae rhai yn elite ond yn elite o bob math.

“Gallech chi ofyn, os y’n nhw’n ailddechrau’r Premier League, pam bo nhw ddim yn caniatáu i Hendy-gwyn ar Daf chwarae yn erbyn Sanclêr.

“Beth sydd gyda chi gyda rasys ceffylau yw’r ffaith fod y cyrsiau mor agored, ry’ch chi bron fel tasech chi’n cynnal y ras ar gwrs golff.”

Cheltenham a’r coronafeirws

Mae tipyn o sôn ers dechrau ymlediad y coronafeirws fod nifer sylweddol o’r achosion yn debygol o fod wedi deillio o benwythnos Gŵyl Cheltenham (Mawrth 10-13).

Un o gyfarwyddwyr y Jockey Club, sy’n trefnu’r ŵyl yw’r Farwnes Harding, cyn-bennaeth TalkTalk a gwraig yr aelod seneddol Ceidwadol dros Weston-Super-Mare, John Penrose.

Roedd 260,000 o bobol wedi heidio i Cheltenham ar gyfer y penwythnos, ac roedd adroddiadau wedyn bod nifer sylweddol o bobol oedd yn mynd i’r ysbyty â symptomau wedi bod yn yr ŵyl neu wedi dod i gysylltiad â rhywun oedd wedi bod yno.

Ond fel mae Janet Davies yn dweud, gellid dadlau yn yr un modd fod gemau pêl-droed a rygbi hefyd wedi cyfrannu at niferoedd uchel o bobol yn cael eu heintio.

“Nid yn unig roedd Cheltenham wedi digwydd ond mae’n debyg, o beth dw i’n deall, un o’r rhesymau pam fod cymaint o Covid yng Nghasnewydd oedd achos fod gêm rygbi wedi digwydd.

“Yn yr un ffordd maen nhw’n dweud mai’r rheswm pam fod lot o Covid hefyd yn Lerpwl – o’n i’n gweld ar y newyddion ddoe, fod mam a mab yn dweud mai’r rheswm pam wnaeth ei gŵr hi a’i dad e farw oedd oherwydd fod e wedi mynd i gêm Lerpwl yn erbyn Atletico Madrid jyst cyn y lockdown.”

Er bod trefnwyr Gŵyl Cheltenham wedi dilyn cyngor Llywodraeth Prydain, mae Janet Davies yn cyfaddef y gallai’r penderfyniad i’w chynnal fod wedi bod yn “anghyfrifol”.

“Os byddai’r llywodraeth wedi dweud wrthyn nhw am beidio bwrw ymlaen, fydden nhw ddim wedi,” meddai.

“Ond roedd y llywodraeth, yn ôl eu cyngor gwyddonol maen nhw’n dweud bo nhw wedi cael, yn dweud bo nhw’n saff.

“Dwi ddim yn amddiffyn neb o gwbl, ond mewn unrhyw fath o beth, pe byddech chi neu fi ddim wedi cau lawr nac wedi trefnu bod staff yn gadael y swyddfa pan wnaethon ni, dych chi ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, ydych chi?

“Roedd e siŵr o fod, o edrych nôl, yn anghyfrifol iawn. Ond dilyn cyngor wnaethon nhw.

“Ro’n ni i gyd yn diawlio pan wnaeth Llywodraeth Cymru neu’r WRU benderfynu bod gêm yr Alban a Chymru ddim yn mynd yn ei blaen ar y nos Wener cyn y gêm, ond roedd hwnna’n bownd o fod yn benderfyniad gwych nawr. Roedd pob un yn rhegi amdano fe.

Mae cymaint o bethau fel ’na. Allwch chi ddim edrych nôl, neu gallwch chi edrych nôl gyda barn lot mwy synhwyrol na beth y’ch chi ar y pryd.

“Falle ymhen blwyddyn fyddwn ni’n gallu dweud mai so-and-so oedd yn iawn.”

Hwb i’r economi

Mae’r diwydiant rasio ceffylau’n bwysig i economi gwledydd Prydain, gan ddenu biliynau o bunnoedd y flwyddyn.

Ac yn ôl Janet Davies, fe fydd yn gymorth i’r staff sydd wedi bod i ffwrdd o’r gwaith gael sefydlogrwydd ariannol unwaith eto.

“Yn economaidd, y ffaith yw fod staff sy’ nawr ar ffyrlo i gyd yn gallu dod ’nôl,” meddai.

“Mae rhaid i geffyl gael ei hyfforddi am o leia’ ddau neu dri mis cyn bo nhw’n barod i redeg, felly trwy agor yr holl beth nawr, mae’r bobol ’ma sy’n gysylltiedig â gofalu ar ôl y ceffylau a gwneud yn siŵr bo nhw’n ffit, i gyd yn gallu dod ’nôl.

“Fydd y cyrsiau rasio, wrth gwrs, ddim yn ennill ryw lawer achos fyddan nhw ddim yn gallu ennill yr arian maen nhw’n cael wrth y bariau.

Creulondeb?

Un o ddadleuon y rhai sy’n gwrthwynebu rasio ceffylau ac sydd wedi lleisio barn dros y dyddiau diwethaf, yw fod rasio ceffylau’n beryglus i’r anifeiliaid.

Ond yn ôl Janet Davies, mae digon o beryglon yn gallu codi mewn bywyd bob dydd.

“Aeth ffrind i fi ma’s ar ei feic ddoe a thorri’i fraich.

“Rasys ar y fflat o’n nhw. Mae mwy o geffylau’n marw ma’s ar y mynyddoedd ac o greulondeb. O’n i ddim yn sylweddoli bod ceffyl wedi mynd [yn Newcastle]. Mae hwnna’n digwydd ar yr heol ar feic.

“Ydy e’n greulondeb bo chi’n caniatáu i rywun fynd ar feic?

“Os y’ch chi’n caniatáu i geffyl fynd ma’s i’r cae, beth mae’r ceffyl ’na’n mynd i wneud ond rhedeg?

“Os oes clwyd o’i flaen e, mae’n mynd i neidio dros y glwyd.

“Does dim creulondeb i ganiatáu i geffyl redeg o A i B. Mae perygl ym mhob peth.

“Fel y’n ni’n dweud gyda Covid nawr, so chi’n gwybod pryd allwch chi fynd i’r archfarchnad a dal y peth, neu falle ddaliwch chi ddim ohono fe. Mae perygl i bopeth.”