Bydd y Gymraes Jade Jones ymhlith yr athletwyr Olympaidd cyntaf i ymarfer eto ar ôl y coronafeirws, wrth i ganolfan ymarfer tîm Prydain agor eto’r wythnos nesaf.

Mae disgwyl i’r ganolfan ym Manceinion agor ei drysau ddydd Mawrth, gyda rhyw dri chwarter o’r athletwyr yn cael dychwelyd yno dan gyfyngiadau llym.

Bydd nifer o staff y ganolfan yno, a bydd athletwyr yn ymarfer yn unigol oni bai eu bod nhw’n byw yn yr un tŷ.

Byddan nhw’n mynd i’r ganolfan mewn grwpiau bach ac yn gorfod cael asesiad risg a phrofion gwrthgyrff.

Bydd hyfforddwyr a staff y ganolfan yn gwisgo cyfarpar diogelu, ac mae llwybrau o amgylch y ganolfan wedi’u haddasu er mwyn osgoi cymaint o gyswllt â phosib.

Does dim sôn eto pryd fydd timau Olympaidd eraill yn cael dychwelyd.