Fe fydd penderfyniad ynghylch cystadleuaeth tenis Wimbledon yn cael ei wneud yn ystod cyfarfod brys yr wythnos nesaf.
Mae pwysau ar y trefnwyr i ganslo’r digwyddiad yn sgil y coronafeirws, ond maen nhw’n bwriadu ei chynnal ar hyn o bryd.
Mae disgwyl iddi ddechrau ar Fehefin 29, ac mae penaethiaid eisoes yn dweud na fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal y tu ôl i ddrysau caëedig.
Ond mae lle i gredu nad ydyn nhw’n awyddus i’w chanslo ychwaith.
Mae pob math arall o’r gêm wedi’i ganslo tan ddechrau’r tymor glaswellt ar Fehefin 7.
Y byd chwaraeon ar ei golled
Mae’n debyg nad yw penaethiaid Wimbledon yn awyddus i weld y byd tenis yn gwneud colledion tebyg i gampau eraill.
Mae Undeb Rygbi Lloegr eisoes yn dweud y gallen nhw golli hyd at £50m dros y 18 mis nesaf, wrth i’r prif weithredwr Bill Sweeney gael gostyngiad cyflog o 25%.
Ac mae Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol yn awyddus i gynnal trafodaethau ag Uwch Gynghrair Lloegr a Chynghrair Bêl-droed Lloegr.
Mae rhai campau eraill eisoes wedi cyflwyno polisi o dorri cyflogau chwaraewyr.
Mae disgwyl i gystadleuaeth griced yr IPL yn India fynd yn ei blaen ymhen tair wythnos, ac mae trefnwyr Pencampwriaeth Athletau Ewrop yn obeithiol y bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Paris ym mis Awst.