Roedd sioc yn Uwch Gynghrair y Dartiau yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Chwefror 21), wrth i Nathan Aspinall drechu Michael van Gerwen.
Dyma’r tro cyntaf i’r Iseldirwr, deilydd tlws yr Uwch Gynghrair, golli y tymor hwn.
Sgoriodd Nathan Aspinall gyfartaledd o 101 wrth iddo ennill yr ornest o 7-5 yn erbyn pencampwr triphlyg y byd.
‘Gwefr’
Dywedodd Nathan Aspinall wrth Sky Sports wedi’r fuddugoliaeth ei fod e’n teimlo’r “wefr”.
“Dyma fy mhedwaredd gêm [yn yr Uwch Gynghrair] a do’n i ddim wedi chwarae’n dda iawn yn fy ngemau hyd yn hyn,” meddai.
“Ro’n i jest eisiau chwarae fy ngêm arferol ac mae’n fuddugoliaeth enfawr i fi.
“Mae’r boi yn ddynol ac os rhowch chi fe dan bwysau, fe fydd e’n methu â’r dartiau.
“Cael curo pencampwr y byd, gwych.”
Y gemau eraill
Glen Durrant sydd ar frig yr Uwch Gynghrair erbyn hyn ar ôl iddo guro Gary Anderson o 7-4.
Crafu buddugoliaeth wnaeth Peter Wright, wrth iddo guro Rob Cross o 7-5 ar ôl bod ar ei hôl hi o 3-0 ar ddechrau’r ornest.
Tafodd Michael Smith 167 a 142 wrth ennill saith gêm yn olynol i guro’r Cymro Jonny Clayton, y gwestai arbennig, o 7-1.
Cafodd y Cymro arall, Gerwyn Price, gêm gyfartal 6-6 yn erbyn Daryl Gurney, ei drydedd gêm gyfartal yn olynol.