Mae’r Cymro Wayne Warren, pencampwr dartiau BDO y byd, wedi cael gwybod mai £23,000 yw ei wobr am ennill pencampwriaeth y byd, yn hytrach na’r £100,000 oedd wedi’i addo.
Yn ôl Sefydliad Dartiau Prydain (BDO), diffyg gwerthiant tocynnau sy’n gyfrifol am y penderfyniad i dorri 77% oddi ar y wobr eleni.
Fe gododd Wayne Warren y tlws yn yr O2 yn Llundain ddydd Sul diwethaf ar ôl curo’i gyd-Gymro Jim Williams o 7-4 yn y rownd derfynol.
Bydd Jim Williams yn derbyn £10,000 yn lle’r £25,000 arferol.
Yn 57 oed, Wayne Warren yw’r pencampwr hynaf erioed.
Dydy e’n dal ddim wedi derbyn ei wobr, wrth i’r trefnwyr ddweud bod ganddyn nhw tan ganol mis nesaf i drosglwyddo’r arian i’r enillydd.