“Pa mor bell alla’ i wthio fy hun?” – Dyma un o’r cwestiynau sydd ar feddwl dyn o dde Cymru a fydd yn rhedeg fyny a lawr Pen y Fan dros y penwythnos.

Mae Rhys Pinner yn gweithio i Urdd Gobaith Cymru ac o dydd Sadwrn (Rhagfyr 21) ymlaen mi fydd yn treulio 36 awr yn esgyn a dod i lawr y mynydd ym Mannau Brycheiniog.

Codi arian at Llamau yw’r nod, a daw hyn yn sgil lansiad partneriaeth rhwng yr elusen ddigartrefedd honno a’r mudiad ieuenctid. Cymhelliant arall iddo, yw ei awydd i wthio’i hun.

“Dw i jest yn hoffi gweld pa mor bell dw i’n gallu mynd yn bersonol,” meddai wrth golwg360. “Lle mae’r ffin? Pa mor bell alla’ i wthio fy hun?

“Dw i jest eisiau gweld beth sy’n digwydd yn hynna o beth. Dw i naill ai’n mynd i dorri fy hun, neu dw i’n mynd i fod yn iawn. Pa un? Dw i ddim yn siŵr! Cawn weld.”

Mae eisoes wedi codi £300 ac mae’n gobeithio codi £600 i gyd.

Anturio 

Nid dyma’r tro cyntaf i Rhys Pinner wthio’i hun yn y fath modd.

Rhai blynyddoedd yn ôl mi rwyfodd o Iwerddon i Gymru – camp 22 awr o hyd – ac mae hefyd wedi cyflawni rasys 50 milltir yn Eryri, a rasys 100 milltir yn ne Cymru.

Yn ystod un ras o Gaerdydd i Fannau Brycheiniog ac yn ôl fe brofodd tipyn o drafferth ar ôl rhedeg trwy gors.

“Roedd wedi bod yn glawio,” meddai. “Roedd yn really really wlyb ac mi wnaeth croen ddod off waelod fy nhroed. Roeddwn yn gallu teimlo’r squidginess yn yr esgid.

“Felly bu’n rhaid i mi drio anghofio am y boen a dal i fynd.”

Mae’n hoff o fynydda, ac mae’n dweud ei fod yn bwriadu dringo mynydd mwyaf De America, Aconcagua, ym mis Chwefror.