Mae enillydd y Cwpan Ryder, Thorbjorn Olsesen yn wynebu achos llys ar ôl cael ei gyhuddo o ymosodiad rhyw a bod yn feddw ar awyren.

Mae’r golffiwr 29 oed o Ddenmarc yn dweud y bydd yn pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau, ac mae wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Uxbridge yng ngorllewin Llundain heddiw (dydd Mercher, Awst 21).

Cafodd Thorbjorn Olsesen, sy’n byw yn Chelsea, ei arestio ar Orffennaf 29, yn syth wedi iddo ddychwelyd o Bencampwriaethau Golff y Byd FedEx St Jude ar awyren o Nashville i Lundain.

Mae’r golffiwr, sydd wedi ennill y Daith Ewropeaidd bum gwaith, wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar rywun â’i ddyrnau hefyd.

Mae Thorbjorn Olsesen wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod, ac mae disgwyl iddo ymddangos eto, gerbron Llys y Goron Isleworth, ar Fedi 18.