Mae Dewi Griffiths o Gaerfyrddin yn gobeithio torri record Gymreig Steve Jones ym Marathon Llundain heddiw (dydd Sul, Ebrill 28).

Fe fyddai’n rhaid iddo orffen y ras mewn llai na 2:07:13 er mwyn bod y Cymro cyflymaf erioed yn y ras dros 26.2 milltir.

Ei amser gorau hyd yn hyn yw 2:09:49, a hynny yn Frankfurt yn yr Almaen yn 2017.

Daeth y record Gymreig bresennol yn Chicago yn 1985, a Dewi Griffiths yw’r un mwyaf tebygol o’i guro ar hyn o bryd.

Hefyd yn y ras mae Josh Griffiths ac Andy Davies.

Natasha Cockram yw gobaith mwyaf Cymru o ran y merched, ar ôl iddi orffen marathon Houston mewn 2:34:18 ym mis Ionawr.

Mae’r rhedwyr i gyd yn mynd am deitlau Pencampwriaeth Cymru a Phrydain, yn ogystal â llefydd ym Mhencampwriaeth y Byd a Gemau Olympaidd Tokyo y flwyddyn nesaf.

Codi arian

Yn ôl yr arfer, fe fydd nifer o Gymry ymhlith y rhedwyr sy’n rhedeg y ras er mwyn codi arian at achosion da.

Fe fydd Lee Aherne o Barc Bryn Bach yn codi arian er mwyn adeiladu cofeb i Steve Jones yng Nglyn Ebwy.

Mae’n gobeithio cyrraedd ei nod o £20,000 a gorffen mor uchel â phosib ymhlith y rhedwyr dros 50 oed.