Mae Mark Williams wedi cyhuddo’r awdurdodau snwcer o’i drin yn annheg ers iddo ddod yn bencampwr y byd y llynedd.
Ar ôl cyrraedd ail rownd Pencampwriaeth Snwcer y Byd, mae’n dweud bod swyddogion wedi gwrthod mynediad i’w ystafell newid i’w fab Kian gan ei fod e eisoes wedi rhoi ei docynnau cefn llwyfan i’w hyfforddwr a’i ffrind.
Mae World Snooker yn gwadu’r honiadau.
“Mae’n amlwg fod ganddyn nhw ryw fath o ffrae gyda fi ond bydd rhaid i chi ofyn iddyn nhw beth yw hynny,” meddai ar ôl trechu Martin Gould.
“Dw i wedi bod yn cael y nonsens hyn drwy gydol y tymor a’r bore yma oedd y penllanw, mewn gwirionedd.
“Mae’r cyfan yn pathetig yn fy llygaid i.
“Os mai chi yw pencampwr y byd, rydych chi’n disgwyl rhyw fath o ffafr.”
Diffyg sylw
Cyn y digwyddiad diweddaraf, roedd Mark Williams eisoes wedi bod yn cwyno am ddiffyg sylw iddo gan World Snooker ers iddo ddod yn bencampwr y byd.
Mae’n dweud y byddai’n well gan yr awdurdodau weld rhywun arall yn bencampwr y byd.