Mae Cymro wedi llwyddo i ennill un o brif bencampwriaethau dartiau’r PDC – a hynny am y tro cyntaf – dros y Sul.
Enillodd Gerwyn Price, ‘r Bargoed ger Caerffili, y Gamp Lawn wedi buddugoliaeth 16-13 yn erbyn Gary Anderson o’r Alban yn ffeinal y gystadleuaeth yn Wolverhampton.
Roedd Gerwyn Price yn colli o 11-8 ar un adeg, cyn cipio wyth o’r 10 cymal olaf ac ennill yr ornest.
Roedd y rownd olaf yn cael ei nodweddu gan ffraeo cyson rhwng y Cymro a’r Albanwr, gyda’r ddau’n gwrthod ysgwyd llaw â’i gilydd ar y diwedd.
Mae’n debyg bod Gary Anderson yn rhwystredig gydag arafwch y chwarae a gor-ddathlu gan Gerwyn Price.
Yn wir, gwelwyd yr Albanwr yn gwthio Gerwyn Price yn dilyn buddugoliaeth y Cymro yng nghymal 27.
“Dyddiau da”
Wrth sicrhau’r Gamp Lawn, fe dderbyniodd Gerwyn Price gwpan sydd wedi’i enwi ar ôl Eric Bristow, y chwaraewr dartiau a fu farw ddechrau’r flwyddyn.
“Mae’r cwpan hwn yn golygu llawer i mi,” meddai Gerwyn Price. “Dyma’r un cyntaf erioed i gael ei enwi ar ôl Eric, felly all neb gymryd hynny oddi arna i.
“Fe fydda i’n cael fy nghofio mewn hanes nawr – dyddiau da.”