Mae cymal olaf Rali GB Cymru yn cael ei gynnal heddiw (dydd Sul, Hydref 7).
Bydd y cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn prawf cyflymdra cyn rasio mewn dau gymal yn Eryri, ac yna’n symud i’r Gogarth ac i strydoedd Llandudno i orffen y cyfan ar y prom.
Fe fu cymalau Cymru’r ras yn hynod gyffrous eleni, wrth i’r fantais symud o un cystadleuydd i’r llall yn y coedwigoedd.
Y cyntaf allan o’r ras ddydd Sadwrn oedd Thierry Neuville o Wlad Belg, sydd ar frig Pencampwriaeth y Byd, wrth iddo lanio mewn ffos yn Hafren.
Roedd anffawd Thierry Neuville yn golygu bod Ott Tänak o Estonia ar y blaen o 40 eiliad a mwy, ac roedd e ar ei ffordd i bedwaredd buddugoliaeth pan gafodd ei atal gan broblemau â’i injan.
Yna, daeth tro Sebastien Ogier i arwain ar ôl iddo gael ei broblemau ei hun yn gynnar ddydd Sadwrn. Ac mae yntau’n wynebu her gan dri chystadleuydd arall – Jari-Matti Latvala ac Esapekka Lappi o’r Ffindir a’r Gwyddel Craig Breen.
Roedd 13.5 eiliad yn gwahanu’r pedwar ar drothwy’r cymal olaf.