Dreigiau 15–23 Gleision
Brwydrodd y Gleision yn ôl i drechu’r Dreigiau ar Rodney Parade nos Sadwrn mewn gêm ddarbi yn y Guinness Pro14.
Roedd y tîm cartref saith pwynt ar y blaen ar hanner amser cyn i’r ymwelwyr daro nôl gyda cheisiau Dacey a Lane wedi’r egwyl.
Dechreuodd y Dreigiau ar dân ac roeddynt ar y blaen wedi deg munud diolch i gais Josh Lewis, y maswr yn derbyn dadlwythiad Jordan Williams cyn croesi.
Ymestynnodd y tîm cartref eu mantais wedi deunaw munud wrth i Jared Rosser groesi am yr ail gais, 12-0 y sgôr wedi trosiad Williams.
Yn ôl y daeth y Gleision gyda chais Owen Lane wedi hanner awr, y cawr o asgellwr yn hyrddio drosodd yn y gornel dde er gwaethaf ymdrechion tri amddiffynnwr i’w daclo!
Caeodd Gareth Anscome y bwlch i bwynt gyda dwy gic gosb yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Williams ymestyn y bwlch i bedwar gyda thri phwynt i’r tîm cartref.
Yna, aeth y Gleision ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm pan sgoriodd Kristian Dacey hanner ffordd trwy’r ail hanner, y bachwr a’r sgoriwr cyson yn elwa o sgarmes synudol effeithiol gan weddill ei bac.
Wnaeth yr ymwelwyr ddim edrych yn ôl wedi hynny ac roedd ychydig o awyr iach rhwng y ddau dîm wedi i Anscombe greu, a throsi ail gais Lane o’r gêm chwarter awr o’r diwedd.
Felly yr arhosodd hi tan y diwedd, 15-23 y sgôr terfynol. Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision i’r trydydd safle yng nghyngres A y Pro14 ac yn cadw’r Dreigiau’n chweched yng nghyngres B.
.
Dreigiau
Ceisiau: Josh Lewis 11’, Jared Rosser 18’
Trosiad: Jordan Williams 19
Cic Cosb: Jordan Williams 57’
.
Gleision
Ceisiau: Owen Lane 30’, 64’, Kristian Dacey 60’
Trosiad: Gareth Anscombe 65’
Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 46’, 55’