Mae’r para-athletwyr o Gymru wedi gorffen Pencampwriaethau Ewrop gyda naw o fedalau rhyngddyn nhw ar ôl diwrnod olaf llwyddiannus yn yr Almaen.

Cipiodd Aled Siôn Davies ei ail fedal ar ddiwrnod ola’r cystadlu, wrth iddo dorri record yn y taflu siot (F64), gyda thafliad o 15.49 metr.

Roedd y Cymro Cymraeg o Ben-y-bont ar Ogwr eisoes wedi ennill y fedal aur yn y ddisgen (F63) ddechrau’r wythnos.

Ar ddiwrnod olaf y cystadlu yn yr Almaen, llwyddodd y Cymro i dorri record y bencampwriaeth wrth daflu pellter o 15.49m.

Medalau eraill

Roedd medal aur hefyd i Hollie Arnold wrth daflu gwaywffon (F46), ac Harri Jenkins yn y ras gadair olwyn dros 100 metr (T33), a Sabrina Fortune yn y siot (F20).

Enillodd Rhys Jones fedal arian yn y 100 metr (T37), ac roedd yna fedal arian hefyd i Jordan Howe yn y 200 metr (T35), a medal efydd i Olivia Breen yn y 100 metr (T38). Roedd Jordan Howe yn ail yn ffeinal y ras 100 metr (T35).

Enillodd Laura Sugar ddwy fedal efydd – y naill yn y 100 metr (T64) a’r llall yn y 200 metr (T64), a medal aur yn y ras gyfnewid 4×100 metr.