Mae ras feicio’r Tour de France wedi cael ei stopio, ac mae heddlu lleol wedi defnyddio nwy dagrau i atal protest gan ffermwyr.
Mae hyn wedi achosi anhrefn yn ardal y 16eg cymal, wrth i feicwyr gael eu dal yng nghanol y dadlau – ac mae seiclwyr wedi gorfod golchi eu llygaid efo dwr er mwyn cael gwared â’r gronynnau o’r llygad.
Mae Geraint Thomas a Chris Froome ymysg y beicwyr sydd wedi’u heffeithio.
Roedd y ffermwyr wedi parcio eu tractorau ar ymyl llwybr y ras, ac wedi rowlio byrnau gwair ar y ffordd, er mwyn rhwystro’r ras rhag mynd rhagddi.