Mae capten tîm criced Morgannwg wedi codi amheuon am ymroddiad rhai o’r chwaraewyr ar ôl y golled drom yn Hove – canlyniad sy’n destun “embaras”, yn ôl Michael Hogan.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 85 yn y batiad cyntaf, ac 88 wrth ganlyn ymlaen a cholli yn y pen draw o fatiad a 154 o rediadau ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sussex o dan y llifoleuadau.

Yr is-gapten Chris Cooke oedd y prif sgoriwr yn y batiad cyntaf gyda 32, a Lukas Carey (17) – y bowliwr cyflym – oedd yr unig chwaraewr arall i sgorio dros ddeg rhediad.

Yn yr ail fatiad, Kiran Carlson oedd y prif sgoriwr gyda 22 ac Usman Khawaja (19) oedd yr unig fatiwr arall i sgorio dros ddeg.

Ymhlith y bowlwyr, cipiodd y capten yntau bedair wiced ac roedd tair wiced i Jeremy Lawlor wrth i Sussex sgorio 327.

‘Parch’

Cyfaddefodd Michael Hogan fod gan Forgannwg “dipyn o feddwl” i’w wneud ar ôl y canlyniad, ac y gallai nifer o chwaraewyr golli eu llefydd, er bod gan y sir bolisi o feithrin doniau rhai o’r Cymry ifainc.

“Ry’n ni wedi rhoi cyfle i rai o’r chwaraewyr ifainc i geisio’u dangos eu hunain ar y llwyfan dosbarth cyntaf. Dw i ddim yn hollol sicr eu bod nhw’n parchu’r sefyllfa maen nhw ynddi ar adegau.

“Mae gyda ni chwaraewyr y gallen ni droi atyn nhw yn nes ymlaen, ac mae nifer o berfformiadau da wedi bod ymhlith yr ail dîm yn ddiweddar, felly fe wnawn ni weld beth allwn ni ddod o hyd iddo.”

‘Embaras’

Ychwanegodd Michael Hogan fod y canlyniad yn “destun embaras.”

“Roedd cael ein bowlio allan ddwywaith o fewn 60 pelawd ar lain eitha’ da yn hynod siomedig ac yn is o lawer na’r disgwyliadau sydd gennym ar gyfer y tîm.

“A bod yn ddifrifol o onest gyda chi, dw i’n credu eu bod nhw [Sussex] yn drech na ni o bell ffordd.

“Mae ganddyn nhw fowlwyr da iawn ac fe ddangoson nhw ddisgyblaeth heb roi rhediadau hawdd i ffwrdd – rhywbeth wnaethon ni wrth fowlio.

“Fe wnaethon nhw bethau’n eitha’ anodd i ni a’n rhoi ni o dan gryn dipyn o bwysau ac fe weithion nhw ni allan.”