Cyfartal yw’r sgôr rhwng Mark Williams a Barry Hawkins ar hyn o bryd yn rownd gyn-derfynol o bencampwriaeth snwcer y byd Betfred.

Roedd Barry Hawkins ar y blaen o 9-7 neithiwr, ac er iddo gael cychwyn gwych gyda thoriad o 128, ymladdodd Mark Williams yn ôl i 10-10 cyn y toriad.

Mae’r Cymro 43 oed wedi ennill y bencampwriaeth ddwywaith, yn 2000 a 2003.

Mae pedair ffrâm arall i’w chwarae ganddyn nhw yn ystod y dydd, cyn cwblhau’r ras gyntaf at 33 yn y Crucible, Sheffield, heno