Mae’r Cymry wedi ennill 29 o fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad hyd yma – y swm uchaf erioed i’r wlad, mewn cystadleuaeth tu allan i Brydain.
Bellach mae gan Gymru saith medal aur, deg arian a deuddeg medal efydd; ac mae disgwyl i hyn gynyddu cyn diwedd y gemau ar Arfordir Aur Awstralia.
Gemau 1990 yn Seland Newydd oedd y gystadleuaeth dramor fwyaf llewyrchus i Dîm Cymru cyn eleni – gwnaeth y wlad ennill 25 medal yno.
Ond y gystadleuaeth fwyaf llewyrchus i Gymru erioed oedd Gemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014 lle enillodd yr athletwyr 36 medal.
Y gymnastwr, Laura Halford, wnaeth ennill 26ain medal Cymru. Mi enillodd fedal arian.