Mae’r para-seiclwr o Gymru, James Ball wedi ennill medal arian yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia.

Dyma’i ail fedal arian yn ystod y Gemau.

Daeth e a’i beilot Peter Mitchell yn ail i’r pâr Albanaidd, Neil Fachie a Matt Rotherham yn y ras wibio.

Dyma’r un cyfuniad o aur ac arian ag a gafwyd ddydd Iau yn y ras yn erbyn y cloc.