Cipiodd y sgïwraig Menna Fitzpatrick a’i thywysydd Jen Kehoe fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn Pyeongchang.
Ar ôl cwympo ddoe, curodd yr athletwraig 19 oed a’i thywysydd ddwy chwaer o Awstria i sicrhau’r fedal ar ddiwedd y gystadleuaeth. Ychydig iawn o olwg sydd gan Menna Fitzpatrick, ac mae’n dibynnu ar ei thywysydd Jen Kehoe i sgïo o’i blaen.
A hithau wedi ennill medalau yng Nghwpan y Byd a Phencampwriaeth y Byd y llynedd, dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn y Gemau Paralympaidd.