Roedd yr Albanwr John Higgins yn fuddugol neithiwr ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.
Fe gurodd e’r Sais Barry Hawkins o naw ffrâm i saith i godi Tlws Ray Reardon.
Gyda’i bumed tlws, mae’n torri’r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau yng Nghymru – mae gan Ronnie O’Sullivan bedwar tlws. Ond fe gurodd e’r Sais yn rownd yr wyth olaf eleni o bum ffrâm i un.
Sgoriodd John Higgins rediadau o 141 a 138 yn y rownd derfynol neithiwr, wrth i Barry Hawkins lwyddo i sgorio 130, a’r ddau yn gyfartal 4-4 ar ddiwedd y prynhawn.
Enillodd Higgins ddwy ffrâm gynta’r noson, ond sgoriodd Hawkins 103 a 138 mewn fframiau olynol i’w gwneud hi’n 6-6.
Higgins enillodd y drydedd ffrâm ar ddeg, ac fe gipiodd e’r ffrâm nesaf hefyd i’w gwneud hi’n 8-6 cyn i Hawkins daro’n ôl.
Ond roedd un ffrâm bwysig arall i ddod wrth i’r Albanwr groesi’r llinell i gipio’r tlws.
Ar ddiwedd y noson, dywedodd John Higgins fod hon “yn un o’r gemau terfynol dw i wedi mwynhau chwarae ynddi fwyaf, a’r safon yn wych”.