Colli o 7-3 oedd hanes y Cymro Gerwyn Price neithiwr yn Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.
Hon oedd ail wythnos y gystadleuaeth ar ôl iddi ddechrau yn Nulyn yr wythnos ddiwethaf.
Roedd yr Albanwr Gary Anderson yn dal i ddioddef o anaf i’w gefn, ond roedd yn rhy gryf i’r cyn-chwaraewr rygbi o Sir Gaerffili oedd yn arfer chwarae yn safle’r bachwr i Gastell-nedd a Cross Keys.
Roedd yn noson siomedig i’r Cymro wrth iddo fethu ag adeiladu ar ei gêm gyfartal yn erbyn yr Albanwr Peter Wright ar y noson agoriadol.
Mae’r canlyniad yn golygu ei fod e’n wythfed allan o ddeg yn y tabl.
Y gemau eraill
Un o uchafbwyntiau’r noson oedd yr ornest rhwng yr Albanwr Peter Wright a’r Iseldirwr Michael van Gerwen – yr Albanwr yn curo’i wrthwynebydd am y tro cyntaf erioed yn hanes yr Uwch Gynghrair. Maen nhw wedi herio’i gilydd wyth gwaith o’r blaen yn y gystadleuaeth hon, gan gynnwys y rownd derfynol y llynedd.
Y tro hwn, sgoriodd yr Albanwr gyfartaledd o 101.04 ar bob ymweliad â’r bwrdd.
Collodd pencampwr y byd, y Sais Rob Cross o 7-1 yn erbyn yr Awstraliad Simon Whitlock, ac roedd buddugoliaeth o 7-4 i’r Sais Michael Smith yn erbyn y Gwyddel Daryl Gurney.
Yng ngornest ola’r noson, aeth yr ornest yr holl ffordd wrth i Raymond van Barneveld o’r Iseldiroedd grafu buddugoliaeth o 7-5 yn erbyn Mensur Suljovic o Awstria.